Arwyddocâd


Buddsoddwyd symiau mawr o arian mewn adnoddau TGCh i ysgolion, yn bennaf drwy weithred o ffydd, ac mae'n bwysig dadansoddi beth fu eu heffaith ar addysgu ac ar safonau cyrhaeddiad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi canolbwyntio'n arbennig ar ddarpariaeth byrddau gwyn rhyngweithiol. Gellid disgwyl y gwelid effaith yr adnoddau hyn yn y dulliau ‘addysgu rhyngweithiol' a gynlluniwyd i ysbrydoli dysgwyr trwy holi cyflym a thasgau byrion, ac sy'n ymddangos fel pe baent yn canolbwyntio ar wybodaeth ffeithiol a sgiliau safon is. Trwy ystyried dadansoddiadau ehangach rhyngweithiad yn yr ystafell ddosbarth, a thrwy archwilio gydag athrawon da sut maent yn gweithio gyda, a heb TGCh, disgwyliwn gael mewnwelediad i sut y gellir defnyddio offer digidol, a hynny yn y dull mwyaf effeithiol, i gynhyrchu gwybodaeth gysyniadol a sgiliau safon uwch.