Cwestiynau


Nod y prosiect yw ymchwilio i sut gall athrawon integreiddio offer TGCh yn eu harferion addysgu bob dydd er mwyn gwella ystod o ddeilliannau dysgu. Mae cysylltiad agos rhwng y prosiect a'r Prosiect Addysg Rhyngweithiol (Cyfnod 2 TLRP, a leolir ym Mhrifysgol Bryste) ac mae ganddo'r prif amcanion canlynol.

1. Cymharu deilliannau dysgu addysgu effeithiol mewn mathemateg, gwyddoniaeth ac ieithoedd gan ddefnyddio offer digidol ac annigidol.

2. Dadansoddi a damcaniaethu'r cysylltiadau rhwng arferion addysgu rhyngweithiol a’r gwelliant mewn deilliannau dysgu pan ddefnyddir TGCh yn yr ystafell ddosbarth.

3. Dadansoddi newidiadau mewn arfer addysgol athrawon o ganlyniad i gynllunio strategaethau addysgu rhyngweithiol a chymryd rhan mewn deialog myfyriol mewn perthynas ag offer TGCh ar gyfer addysgu a dysgu.

4. Datblygu'r ymchwil a wneir yng Nghymru ynghylch dysgu, addysgu a datblygiad proffesiynol.