Arsylwi ar wersi


Mae dau aelod o'r tîm ymchwil yn cyflawni'r arsylwadau dosbarth - yr ymchwilydd sy'n gysylltiedig â'r pâr o athrawon dan sylw drwy gydol y prosiect, ynghyd â chynorthwy-ydd sy'n cefnogi'r ymchwilydd cysylltiedig yn nhermau arbenigedd pwnc/cyfnod. Rydym yn cofnodi:

•  nodiadau cyn arsylwi ynghylch amcanion y wers a nodweddion arbennig yr ystafell ddosbarth, yr adnoddau, strwythur y wers a'r disgyblion

•  Nodiadau maes ynghylch y gweithgareddau a gyflawnwyd yn ystod y wers

•  Pwyntiau ychwanegol a wnaed gan yr athro/athrawes a'r ymchwilwyr yn syth ar ôl yr arsylwi.

 

Mae'r nodiadau maes yn ceisio crynhoi'r digwyddiadau allweddol yn ystod y wers, gyda safon o fanylder sy'n briodol i arwyddocâd y digwyddiad. Mae'r nodiadau hyn yn cael eu rhannu gyda'r athro/athrawes wedyn. Mae'r ymchwilydd cynorthwyol yn gwneud nodiadau ychwanegol ynghylch disgyblion unigol a gweithgareddau grwp os yw'n bosibl. Yn ogystal, mae dau gamera fideo yn cofnodi gweithgareddau'r dosbarth; mae un yn canolbwyntio ar flaen yr ystafell ddosbarth (yn arbennig ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol neu ddulliau eraill o gyflwyno i'r dosbarth cyfan), mae'r ymchwilydd cynorthwyol yn dal y llall ar yr ochr fel y gall gipio ymatebion y disgyblion yn ystod rhyngweithio dosbarth cyfan a gweithgareddau grwpiau o ddisgyblion lle bo'n berthnasol. Mae'r athro/athrawes yn cael cadw'r recordiad DVD ar y prif gamera, a gofynnir iddo/iddi ddewis rhan arbennig o'r wers i'w thrafod mewn deialog myfyriol gyda'r ymchwilydd cysylltiedig tuag wythnos yn ddiweddarach. Caiff y recordiad ei drosglwyddo i liniadur yr ymchwilydd er mwyn helpu gyda dadansoddiad rhagarweiniol y nodiadau maes, yna caiff ei ddileu. Yn syth ar ôl yr arsylwi, mae'r ddau ymchwilydd yn cofnodi eu meddyliau am strwythur y wers, y gweithgareddau a gwblhawyd a'r modd y'u cyflawnwyd gan yr athro/athrawes a'r dysgwyr.



>>Comment on this topic (use authorisation code: interactiveteaching during registration)