choose a link option features of the learner features of the setting Orchestration by the learner Orcehstration by teacher and others Reflection in action Reflection on action Affordances Constraints Goal-directed activity Product product Knowledge Construction Intra-action Interaction


Cafodd y nodiadau gwers a'r deialogau myfyriol eu dadansoddi gan ddefnyddio'r fframwaith Dadansoddi Addysgu a Dysgu mewn Cyd-destun Gweithgareddau (ATLAS) a gynlluniwyd ar gyfer y prosiect er mwyn cynhyrchu astudiaethau achos mewn fformat safonol ynghylch y cyd-destun (nodweddion perthnasol yn unig); yr amcanion dysgu a'r dasg a osodwyd; y gweithgaredd yn cael ei gyflawni a'r modd yr addaswyd y posibiliadau a'r cyfyngiadau gan yr athro/athrawes/disgybl er mwyn cefnogi'r nodau cynhyrchu a dysgu; myfyrdod ar y gweithgaredd a gyflawnwyd yn y dosbarth. Roedd y cyfnod cychwynnol yn cynnwys creu disgrifiad cynhwysfawr o bob elfen o'r gweithgaredd ystafell ddosbarth, yn cynnwys y nodiadau maes a ddisgrifir yn nhermau'r gweithgaredd, nod y disgyblion, y cyfraniad a wnaed gan nodweddion y cyd-destun a phriodoleddau'r disgyblion i botensial a strwythur y gweithgaredd, y modd y cyflawnwyd y nodweddion hyn gan yr athro/athrawes a'r disgyblion, a'r dysgu a allai ddigwydd. Cynorthwywyd y broses gan recordiadau fideo a'r deialogau myfyriol gydag athrawon a disgyblion. Mae'r disgrifiadau gwers yn cael eu defnyddio gan ymchwilwyr unigol i lunio astudiaethau achos, a bydd y rhain yn cael eu cymharu ar draws pynciau a chyfnodau a'u cysylltu â'r cyfweliadau cychwynnol gydag athrawon a disgyblion.

>>Comment on this topic (use authorisation code: interactiveteaching during registration)