Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Er nad welodd llawer o athrawon unrhyw newidiadau yn eu dull addysgol, fe wnaeth rhai llai o addysgu uniongyrchol, gan ehangu'r ystod o weithgareddau ar gyfer y disgyblion a chynyddu annibyniaeth y disgyblion. Teimlai'r mwyafrif eu bod wedi cynnwys mwy o TGCh yn eu hymarfer o ganlyniad i fyfyrio am eu profiad, eu trafodaeth gydag athrawon eraill, a'u hymchwil ar y Rhyngrwyd. Ymhlith y rhai a welodd newid, roedd llawer yn pwysleisio gwerth gwneud camsyniadau - cyfaddef camsyniadau a datblygu diwylliant lle gallai disgyblion wneud camsyniadau'n gyhoeddus gan ddisgwyl cael cefnogaeth ac eglurhad yn hytrach nag ofni cael eu gwawdio. Roeddynt wedi trosglwyddo mwy o gyfrifoldeb i'r disgyblion, wedi gwrando'n fwy ar ddisgyblion, wedi seilio eu gweithgareddau ar yr hyn a wnaeth y disgyblion, ac wedi annog disgyblion i addysgu ei gilydd. Buont yn holi disgyblion yn fwy trylwyr, yn gosod tasgau mwy agored, wedi'u seilio ar weithgaredd, mewn grwpiau, wedi caniatáu mwy o symudiad ac wedi paratoi gweithgareddau wedi'u gwahaniaethu'n fwy er mwyn darparu ar gyfer disgyblion gydag anghenion addysgol ychwanegol, naill ai mewn grwpiau gyda'i gilydd neu gyda disgyblion mwy galluog. Er na ellir cyffredinoli y tu hwnt i brofiad yr athrawon eu hun ar sail y cymariaethau cyrhaeddiad, mae hyn wedi dangos na wnaeth rhai athrawon a oedd yn effeithiol iawn heb TGCh, wella eu haddysgu ar unwaith pan wnaethon nhw ddechrau defnyddio TGCh, ennill sgiliau TGCh neu arbrofi ar y ffordd orau o gynnwys TGCh yn eu hymarfer. Nid oedd dechrau defnyddio TGCh wedi gwneud llawer o wahaniaeth i'w dulliau addysgu, drwy ddarparu deunydd ychwanegol neu newydd megis delweddau, clipiau fideo a chwisiau i wella'u harfer presennol. Ond tueddodd athrawon a oedd eisoes yn defnyddio TGCh i wella eu heffeithiolrwydd a chael budd o fyfyrio am eu harfer, trafod syniadau a rhannu adnoddau gyda'u cydweithwyr. Sylweddolodd rhai defnyddwyr profiadol eu bod yn fwy gofalus eu dewis ynghylch TGCh, ac roedd rhai wedi newid eu ffordd o weithio: er enghraifft, trwy adael i ddisgyblion weithio ar y BDRh mewn grwpiau bychain, a defnyddio'r ystafell TGCh i ganiatáu i ddisgyblion ymchwilio ar eu pen eu hun yn hytrach na chyflwyno deunydd wedi'i baratoi ar y bwrdd. Teimlai rhai for TGCh yn caniatáu i ddisgyblion gymryd mwy o gyfrifoldeb a gweithio'n annibynnol, a bod adborth cyflym yn magu hyder. Ond teimlent na allai TGCh wneud popeth ac roedd angen ychwanegu ati drwy waith ymarferol mewn gwyddoniaeth a gwaith llafar mewn addysgu ieithoedd.
Wrth fyfyrio am broses y prosiect, nododd llawer o athrawon y rhwystredigaeth a achoswyd gan ddiffygion TGCh, ond teimlent eu bod mewn gwell sefyllfa i wneud mwy o ymdrech i ddatrys problemau a datblygu eu sgiliau eu hun. Roeddynt yn gwerthfawrogi'r cydweithredu gydag athrawon eraill, ond y gwerth mwyaf oedd medru eu gwylio'u hun yn addysgu a thrafod penodau gyda'r ymchwilydd. Roeddynt wedi dod yn fwy agored i syniadau ac yn fwy hyderus wrth ddatblygu eu syniadau eu hun gydag TGCh. Roedd un athro hefyd yn gweld gwerth gofyn i ddisgyblion fyfyrio am fideo o'r dysgu.
>>Comment on this topic (use authorisation code: interactiveteaching during registration)