TGCh Arall


Activity and Learning    Teaching   IWBs   Other-ICT



Defnyddiwyd gliniaduron/ cyfrifiaduron yn aml ar gyfer ymarfer sgiliau a thechnegau lefel isel a oedd wedi'u cyflwyno trwy weithgaredd o gwmpas y BGRh, ond weithiau cawsant eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau ymchwilio gan barau o ddisgyblion. Yn gyffredinol, roedd disgyblion yn dueddol o ganolbwyntio ar gyrraedd canlyniad y dasg heb ystyried y dull, ac weithiau roedd TGCh yn darparu ffyrdd gwahanol o gyflawni'r nod heb gynnwys y syniadau a fwriadwyd. Weithiau roedd gweithgareddau TGCh unigol yn caniatáu i'r disgyblion gael yr ateb yn hawdd heb fod angen iddynt feddwl, neu gallent gael yr ateb cywir trwy brofi a methu heb unrhyw ddealltwriaeth. Ond gwrthweithiwyd hyn pan fyddai'r athro'n rheoli gweithgareddau dosbarth cyfan.

 

Datblygwyd nodweddion cyflymder ac ailadrodd TGCh hefyd pan gawsai dysgwyr weld cyfres gyflym o achosion o ffenomenon arbennig megis perthnasoedd onglau, a oedd yn gymorth gyda chynhyrchu cysyniadau anwythol. Roedd ystod, cynhwysedd a nodweddion cysylltu TGCh yn darparu cyfleoedd ar gyfer chwilio systematig am wybodaeth, gan ddarparu profiad archwiliadol yn wahanol i lyfrau a oedd yn dueddol o roi ateb yn hawdd iawn. Fodd bynnag, roedd yn well gan ddisgyblion waith ymarferol traddodiadol nag efelychiadau mewn gwyddoniaeth oherwydd eu bod yn mwynhau trin pethau'n gorfforol gan gydnabod mai dyna'r hyn a wnelai 'gwir' wyddonwyr, a chawsant eu diddori'n wybyddol gan natur gymharol anrhagweladwy'r sefyllfa.

 

Adroddwyd nifer o achosion o ‘ffactor ymyriant TGCh'. Prif achos hwn oedd problemau technegol yn hytrach na diffyg sgiliau TGCh - yn wir, yn aml gallai athrawon a disgyblion ddatrys problemau a gododd gyda'i gilydd. Mewn rhai achosion, roedd diffygion a gweithredu araf yn ymyrryd â llif y gweithgaredd ac felly roedd yn gwrthweithio unrhyw fantais oedd TGCh yn ei chyfrannu.