Y gwahaniaethau pan ddefnyddir TGCh



Activity and Learning  Teaching   IWBs   Other-ICT

Prif ddiben y data meintiol cyn ac ôl asesu oedd helpu gyda dadansoddi ar lefel ‘leol' (astudiaeth achos) yn hytrach nag ar lefel ‘hollgynhwysol' ar draws y prosiect. Mae nifer fawr o ffactorau yn effeithio ar y dysgu a'r mesuriad ohonno - yn cynnwys natur yr ysgol, y dosbarthiadau dan sylw, yr athrawon, y cynlluniau gwaith, a'r adnoddau sydd ar gael - ac mae angen ystyried y rhain achos wrth achos. Ym mhob cyfuniad o bwnc a Chyfnod Allweddol, mae dadansoddiad mwy manwl ar waith o'r gwahaniaethau mewn gweithgareddau ystafell ddosbarth yn ôl yr athrawon dan sylw a bydd ymatebion yr asesiadau yn cael eu hastudio'n fanwl iawn er mwyn clustnodi'r dysgu a gyflawnwyd dan y cyflyrau a oedd yn berthnasol yn ystod pob cyfnod o'r prosiect.

 

Er na ellir cyffredinoli ar sail y dadansoddiad cyffredinol o'r data meintiol yng nghynllun yr ymchwil hwn, mae wedi bod yn bosibl cyflawni nifer o ddadansoddiadau o gyrhaeddiad ôl-brawf ar gyfer setiau arbennig o athrawon, gan ddefnyddio cyn-brawf fel cyd-newidyn, ac mae'n rhesymol ystyried pa batrymau sydd wedi ymddangos hyd yma wrth edrych dros y dadansoddiad o gymariaethau arbennig, a pha ragdybiaethau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol y gellir eu cynhyrchu ar sail yr enghreifftiau hyn.

 

Y patrwm cyffredinol oedd bod ‘dim gwahaniaeth sylweddol' yng Nghyfnod 1 rhwng y dosbarthiadau a addysgwyd gan ddefnyddio TGCh a'r rhai a addysgwyd heb ddefnyddio TGCh. Cadarnhaodd hyn yr arwyddion o'r data ansoddol a ddangosodd, er gwaetha'r sylw a'r diddordeb cynyddol a allai gael ei gynhyrchu gan TGCh, nid oedd athrawon hyd yma'n gallu trosi hyn yn welliannau sylweddol yn y dysgu. Yn wir, y tueddiad cyffredinol oedd bod yr athrawon nad oeddynt yn defnyddio TGCh yn cael gwell canlyniadau, a phan astudiwyd y data ansoddol i chwilio am esboniad am hyn, gwelwyd yn y rhan fwyaf o achosion, fod yr athro nad oedd yn defnyddio TGCh yn dangos lefel uwch o ryngweithiad ar lefel uchel.

 

Creodd hyn ragdybiaeth newydd, y mae eisoes tystiolaeth gref ar ei chyfer yn y gwahanol setiau o ddata ansoddol, sef bod y lefel o ryngweithiad mewn addysgu yn ffactor bwysicach ar gyfer dysgu llwyddiannus nag a yw TGCh yn cael ei defnyddio ai peidio. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddata ar draws dosbarthiadau, a'r ‘lefel o ryngweithiad' yn ffactor sefydlogi wrth ddadansoddi'r cydamrywiad, ym mhob achos cafwyd bod athrawon oedd yn defnyddio llawer o ryngweithiad ar lefel uwch yn gweld mwy o welliant yn eu cyrhaeddiad yn ystod Cyfnod 1 na'u cydweithwyr a ddefnyddiai llai o ryngweithiad ymddiddanol - ac mewn rhai achosion, roedd y gwahaniaeth yn sylweddol.

 

Fodd bynnag, ni chynhaliwyd y gwahaniaethu hwn mewn gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol yng Nghyfnod 2. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddata Cyfnod 1 a Chyfnod 2 ar gyfer yr un athro a'r un cyfnod fel y ffactor sefydlogi yn y dadansoddiad o gydamrywiad, cafwyd mewn rhai achosion bod yr athrawon nad oeddynt yn defnyddio TGCh a fu'n llwyddiannus iawn yng Nghyfnod 1 yn ymddangos yn llai effeithiol wrth ddefnyddio TGCh yng Nghyfnod 2; gallai hyn adlewyrchu gostyngiad dros dro mewn effeithiolrwydd wrth iddynt ennill arbenigedd mewn defnyddio technoleg newydd. Yn ogystal, roedd tystiolaeth fod rhai athrawon a oedd yn defnyddio TGCh yng Nghyfnod 1 wedi dod yn fwy effeithiol wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi addysgu rhyngweithiol. Gallai hyn adlewyrchu eu datblygiad proffesiynol mewn addysgeg gyda TGCh a enillwyd yn ystod Cyfnod 1 a'r gynhadledd interim.



>>Comment on this topic (use authorisation code: interactiveteaching during registration)