Gweithgaredd a Dysgu
Activity and Learning Teaching IWBs Other-ICT
Roedd y mathau o weithgaredd yn wahanol gyda TGCh o'u cymharu â rhai heb TGCh. Gemau oedd y rhai mwyaf cyffredin gyda TGCh ac roedd ganddynt nodweddion gwahanol i'r rhai gwaith llaw. Roedd cyflymder yn nodwedd allweddol o TGCh, ac roedd yn fuddiol pan gynhyrchodd adborth cyflym ar ddysgu, ond pan oedd cyfyngiadau amser yn nodwedd o gêm neu her, roedd y dysgwr yn dueddol o flaenoriaethu cyflymder dros feddwl yn strategol neu gywirdeb. Roedd sgorio yn arwain at gystadlu ond yn aml roedd yn tynnu sylw oddi ar y dysgu a fwriadwyd ac at ddatblygu strategaethau ar gyfer ennill sgôr uchel. Yn aml ceir diffyg strwythur cynyddol mewn gweithgareddau TGCh, yn arbennig pan gaiff y tasgau eu cynhyrchu ar hap.
Defnyddiwyd cwisiau drwy TGCh yn eang ac ystyriwyd y rhain yn hwyliog gan y disgyblion ac yn hawdd eu rheoli gan yr athrawon - yn aml gyda ‘ systemau pleidleisio': dyfeisiau ymateb amlddewis llaw yn arbennig ar gyfer disgyblion a oedd yn caniatáu dangos ystod o wahanol ymatebion heb enwi unigolion. Roedd hyd yn oed y disgyblion eithaf ifanc yn gallu cyflawni'r fath weithgareddau mewn grwpiau heb oruchwyliaeth lawn gan yr athrawon. Gwerthfawrogwyd yr adborth cyflym heb wawdio a chofnodwyd yr atebion fel y gallai'r athrawon eu dadansoddi'n ddiweddarach. Mewn rhai achosion, roedd y pwyslais ar yr ateb cywir yn unig, ond defnyddiodd athrawon eraill y canlyniadau'n ffurfiannol gan holi disgyblion arbennig ynghylch y rhesymau am eu hatebion cywir neu anghywir. Ond cafwyd yr un effaith yn eithaf hawdd mewn dosbarthiadau heb ddefnyddio TGCh hefyd, trwy ddefnyddio byrddau gwynion bychain.