Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAA)



Roedd yn ymddangos bod disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig y rhai yr oedd Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt yn hytrach na Saesneg, yn elwa oddi wrth ddeunydd gweledol cliriach. Roedd yn ymddangos eu bod yn cyfrannu'n fwy at addysgu dosbarth cyfan wrth ddefnyddio'r BGRh, ond efallai mai ar lefel arwynebol yn unig yr oedd hyn. Weithiau byddai dysgwyr araf yn colli allan yn ystod addysgu dosbarth cyfan gyda neu heb TGCh am eu bod yn ymddangos fel pe baent yn cyfrannu a ni chanfuwyd eu hanawsterau, ond trwy weithio ar lafar mewn parau neu'n unigol a chyda TGCh, fe fedron nhw gyfranogi'n well.

Llwyddwyd yn aml i wahaniaethu gweithgareddau'n llwyddiannus trwy ddefnyddio ystafell TGCh lle'r oedd digon o gyfrifiaduron i'w defnyddio'n unigol. Fodd bynnag, wrth ddefnyddio meddalwedd addas mewn grwpiau bychain, roedd yn ymddangos bod disgyblion AAY yn gallu gweithio'n annibynnol ar yr athrawon a'r staff cefnogi, ac yn gallu dysgu mwy nag y disgwylid drwy ddefnyddio cyfryngau traddodiadol. Teimlwyd bod disgyblion gydag anawsterau dysgu yn cael eu hysgogi a'u hannog, ac yn achos un athrawes, roedd gweld eu cymhwyseddd wrth ddefnyddio TGCh wedi newid ei chanfyddiad o allu llawer o ddisgyblion.



>>Comment on this topic (use authorisation code: interactiveteaching during registration)